Beth yw therapi?

Gall proses therapiwtig sy’n cael ei chreu ar y cyd ac sy’n gydweithredol gael effaith ddwys a pharhaol ar y ffordd rydym ni’n ystyried ein hunain, a’r dewisiadau rydym ni’n eu gwneud yn ein bywydau, drwy ofyn cwestiynau pwysig i ni’n hunain:

Beth sy’n bwysig i ni, a beth sy’n gwneud inni deimlo’n dda?

Ers dros ugain mlynedd bellach rydw i wedi bod yn gweithio yng nghyd-destun y celfyddydau, ym maes addysg, ac mewn cymunedau gyda amrywiaeth o bobl o bob math. Rydw i wedi dod i ddeall bod gan bobl allu cynhenid i ganfod adnoddau i wella ac i hybu eu hunan-les, hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf anodd neu drawmatig.

Rwy’n credu bod datblygu perthynas garedig gyda’n cyrff yn ogystal â’n meddyliau yn rhan hanfodol o’r ffordd rydym ni’n dysgu gofalu amdanom ein hunain. Mae ein gallu i reoli gwahanol symptomau fel gorbryder, panig, straen neu fod yn gaeth i rywbeth, yn aml iawn yn seiliedig ar yr ymwybyddiaeth sydd gennym o’n corff a’n meddwl, a’r modd rydym ni’n defnyddio’r ymwybyddiaeth honno i helpu ein hunain pan ddaw heriau i’n rhan.

Wrth wraidd y broses therapi, mae perthynas therapiwtig. Drwy ddod i ddeall beth sy’n digwydd, gallwn fyfyrio ar y modd y mae’r gorffennol (digwyddiadau cymdeithasol, diwylliannol, teuluol neu drawmatig) yn effeithio ar y presennol.

Gyda’n gilydd gallwn ganfod ffyrdd o newid pethau er gwell.

Y BROSES

Gall y broses therapiwtig helpu pobl ag amrywiaeth eang o anawsterau, er enghraifft gorbryder, teimladau o banig, colli cyfeiriad mewn bywyd, teimladau o fod yn gaeth i rywbeth, a llawer mwy.

Mae’r broses yn dechrau gyda sesiwn lle bydda i’n gofyn ichi sut alla i eich helpu. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n llunio cynllun a allai gynnwys gweithio ar fater penodol, neu efallai byddwn ni’n mynd ati’n fwy pen agored ac yn trafod bob wythnos beth yw’r ffordd orau ymlaen.

Gallai’r tymor byr fod rhwng 6 a 12 sesiwn, a gallai’r tymor hir fod yn chwe mis a rhagor. Ar bob cam o’r broses byddwn ni’n trafod sut mae pethau’n mynd a pha gyfeiriad i anelu ato nesaf. Rwy’n gweithio fesul wythnos, wyneb yn wyneb yn ogystal ag ar-lein.

I drefnu apwyntiad, neu i gael sgwrs ffoniwch y rhif yma: 0777 613 75 51

Os na chewch chi ateb, gadewch eich enw a’ch rhif ffôn ac mi wna i ffonio’n ôl cyn gynted â phosib. Mae pob galwad yn cael ei thrin yn ofalus ac yn gwbl gyfrinachol.

Gallwch hefyd, os dymunwch, gysylltu â mi drwy anfon neges e-bost: caitomos@me.com