Goruchwylio Gwaith Creadigol

Os ydych chi’n darparu gweithgareddau yn y celfyddydau creadigol o fewn cyd-destunau cyfranogol, fel ysbytai, cartrefi gofal, ysgolion a chanolfannau dydd, beth am gael sesiwn oruchwylio? Rwy’n gallu darparu un sesiwn, neu gyfres o sesiynau misol, yn ôl eich dymuniad. Diben y sesiynau hyn yw helpu pobl sydd angen rhagor o oruchwyliaeth wrth fyfyrio ar eu gwaith eu hunain, ac effaith eu grŵp o gleientiaid a’r cyd-destun neu’r sefydliad y maen nhw’n gweithio o’i fewn ar yr hyn y maen nhw ei wneud, a sut.

Fframwaith o gymorth seicotherapiwtig a dealltwriaeth o drawma yw goruchwylio gwaith creadigol. Mae’n gyfle i edrych ar y modd y mae gweithgareddau sy’n seiliedig ar y celfyddydau yn cael eu darparu. Mae’n gyfle hefyd i ystyried sut i ofalu amdanoch chi’ch hun o fewn gofynion y gwaith.

Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn fy ystafell ymgynghori neu ar Skype/Facetime/Sylo.

I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau sydd ar gael a’u prisiau cysylltwch â: caitomos@me.com