¨The purpose of therapy is not to remove suffering but to move through it to an enlarged consciousness that can sustain the polarity of painful opposites.¨
James Hollis
Rwy’n Seicotherapydd Integreiddiol. Golyga hynny fy mod i’n cyfuno amryw ddulliau a thechnegau o wahanol feysydd seicotherapi, megis seicdreiddiad, gwaith Jung, therapi dyneiddiol a thrawsbersonol. Mae pob un ohonom yn fydysawd crwn ac yn unigryw yn y ffordd rydym ni’n gweld neu’n teimlo ein hunain yn y byd.
Gyda’r dull integreiddiol mae modd edrych ar brofiadau, anawsterau a chryfderau drwy sawl lens er mwyn datblygu a deall y modd y mae rhywun yn meddwl ac yn teimlo am eu perthynas gyda nhw eu hunain.
Mae rhan gelfyddydol y dull seicotherapi hwn yn rhoi pwyslais ar ddychymyg fel rhywbeth sy’n ganolog i’n hiechyd a’n lles. Pan allwn ni ddychmygu’r hyn sydd ei angen arnom ni, a gweld yr hyn sydd ar goll, neu’n angenrheidiol, gallwn ni wedyn ddilyn cyfeiriad yr hunan, a rhoi ein hyder yn y daith honno.
Gallwn fod yn chwilfrydig am freuddwydion neu ddelweddau a allai fod yn ffynhonnell o wybodaeth ar ein llwybr yn y byd. Weithiau, mae symptomau fel gorbryder neu iselder yn ennyn synwyriadau corfforol, ac mae modd edrych ar y rheini drwy lygad y dychymyg. Efallai y bydd delwedd yn dod i’n meddwl, neu deimlad o ryw fath yn gysylltiedig â’n symptomau o orbryder neu iselder. Drwy archwilio a bod yn chwilfrydig am y delweddau hynny, gallwn gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n rhwystro’n hegni, neu beth all fod ei angen arnom ni er mwyn inni allu helpu’n hunain.