Y Profiad Somatig

“Traumatic symptoms are not caused by the event itself, they arise when residual energy from the experience is not discharged from the body”
Peter Levine

Mae’r profiad somatig (Somatic Experiencing®) yn rhoi persbectif newydd a gobeithiol ar drawma. Mae’n ystyried y bod dynol yn un sydd â gallu cynhenid i wella drwy ddysgu sut i sylwi ar synwyriadau yn y corff a’u dilyn hyd at bwynt lle mae’r corff yn gwneud yr hyn sy’n angenrheidiol iddo deimlo’n ddiogel eto.

Mae llawer o bobl, yn ystod eu hoes, yn wynebu heriau a rhwystrau yn eu gallu i ymateb i straen. Er mor llesol ydi siarad, dydy hynny ddim yn ddigon i fynd i’r afael â’r hyn sy’n digwydd yn ffisioleg ein corff. Mae ein system nerfol awtonomig yn gymhleth, ac mewn diwylliant sy’n ein hamddifadu o realaeth ein cyrff, gall fod yn anodd iawn cael yr help priodol. 

Mae’r dull hwn o weithredu yn dod â’r synwyriadau, ein profiadau corfforol, ac ystyr at ei gilydd. Pan fyddwn ni’n dioddef trawma, rydyn ni’n colli ein bywiogrwydd. Mae’r profiad somatig yn ffordd hynod effeithiol o fynd ati i adfer y teimlad hwnnw.

Gydag amser, fe ddown i deimlo ein synwyriadau a’n hemosiynau’n llawnach. Byddwn ni’n dechrau deall sut mae ein corff cyfan yn ymateb i straen sefyllfaoedd bob dydd, a deall sut mae’r ffordd y mae ein corff yn ymateb yn amharu ar ein hiechyd a’n lles. Byddwn ni’n dysgu sut i gynnal ein hunain mewn cyfnodau heriol a sut i ddefnyddio gofal a charedigrwydd yn offer i’n helpu ni.

Gallai ein symptomau ymddangos fel iselder, gorbryder, a bod yn gaeth i rywbeth. O dan yr wyneb, wrth inni fwrw ymlaen â’n bywydau, efallai ein bod ni’n teimlo’n wag, yn drist neu’n flin. Maes o law, gallwn ni ddysgu sut i ymlacio a byw yn y foment, a bod yn llwyr ymwybodol o’n teimladau a’n synwyriadau. Dyna’r wybodaeth a fydd yn ein helpu i wneud dewisiadau da am yr hyn sy’n llesol â’r hyn sy’n niweidiol inni yn ein bywydau.

Rwy’n cyfuno’r gwaith hwn gyda seicotherapi a dulliau sy’n seiliedig ar y celfyddydau a’r corff. Maen nhw’n annog perthynas ddwysach â’r corff, ein bywiogrwydd a’n dychymyg ar ein taith tuag at iechyd.