
Rwy’n seicotherapydd profiadol, sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Rwy’n gweithio mewn practisau preifat ac mewn gwahanol amgylcheddau yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Rwy’n arbenigo mewn gweithio gyda gorbryder, iselder, a phobl sy’n gaeth i rywbeth. Rwyf hefyd yn gweithio gyda phobl sy’n LHDTQ+ neu’n dod i adnabod eu hunain fel LHDTQ+, a materion sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.
Rwy’n angerddol am fy ngwaith gyda phobl hŷn, pobl sydd wedi cael diagnosis o dementia yn gynnar yn eu hoes, a phobl sydd â salwch corfforol sy’n newid eu bywydau. Yn aml iawn, mae prif sylw’r gwaith ar helpu pobl i feithrin y gallu i ymddiried yn eu cyrff eu hunain. Rhan o hyn yw deall nad oes rhaid i deimladau anodd fod yn elyniaethus, a hybu’r gallu i ymddiried yn yr elfennau da sy’n rhan annatod ohonom ni oll.
Cyn cymhwyso fel therapydd, dawnsiwr oeddwn i, ac rydw i wedi gweithio gyda’r corff fel ffordd o gyfathrebu ers blynyddoedd lawer. Mae’r sgiliau a ddatblygais yn y maes hwnnw wedi bod yn werthfawr iawn yn fy ngyrfa fel therapydd. Rydw i wedi cael hyfforddiant mewn sawl dull sydd â’r nod o gryfhau’r cysylltiad rhwng ein meddwl a’n corff, a sut orau i elwa ar ddoethineb y corff i fod yn gefn inni mewn cyfnodau anodd.
Hyfforddiant
MA Seicotherapi Celf Integreiddiol
DIP Cymhwyso’r Celfyddydau yn Therapiwtig
Y Profiad Somatig