¨We are not here to fit in, be well balanced, or provide exempla for others. We are here to be eccentric, different, perhaps strange, perhaps merely to add our small piece, our little clunky, chunky selves, to the great mosaic of being….
We are here to become more and more ourselves.¨
James Hollis
Os ydych chi wedi cyrraedd y dudalen hon, mae’n ddigon posib eich bod chi’n chwilio am help o ryw fath.
Mae bywyd yn ein herio mewn ffyrdd annisgwyl ac weithiau mae angen ychydig mwy o help arnom ni i dorri drwodd.
Efallai bod bywyd wedi colli’i ystyr ichi, neu efallai bod gennych symptomau fel iselder, gorbryder, galar neu’n gaeth i rywbeth. Neu efallai eich bod yn barod i barhau gyda’ch siwrnai o hunanymwybyddiaeth.
Rwy’n credu’n gryf bod gan bob un ohonom ddoethineb a gwydnwch, ond nad ydi hynny’n amlwg bob tro.
Mae’r berthynas therapiwtig yn allweddol i adfer ein hadnoddau, oherwydd mae’n gofyn beth sy’n bwysig inni yn ein bywydau a sut allwn ni wneud newidiadau sy’n ein helpu i fyw bywydau cyflawn.